Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y
cyfarfod: |
|
|
|
||
Amser y
cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Pleidleisiau a Thrafodion (90)v5 |
Ethol Dirprwy Lywydd dros dro
Cafodd Rhodri Glyn Thomas ei ethol yn Ddirprwy Lywydd dros dro.
1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd cwestiynau 1 i 11 a chwestiynau 13 a 15. Tynnwyd cwestiynau 12 ac 14 yn ôl. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.
Cwestiwn Brys
Dechreuodd yr eitem am 14.19
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd yn dilyn canfyddiadau adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru: Cydberthynas Llywodraeth Cymru â Chymdeithas Lleiafrifoedd Ethnig Cymru Gyfan.
2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Dechreuodd yr eitem am 14.41
3. Datganiad gan Weinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy: Canlyniadau Ymgynghoriad Cynnal Cymru Fyw
Dechreuodd yr eitem am 14.55
4. Datganiad gan y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth: Ymateb Llywodraeth Cymru i “Adolygu Ardrethi Busnes Cymru: Cymell Twf”
Dechreuodd yr eitem am 15.29
5. Datganiad gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau: Ad-drefnu Addysg Uwch
Dechreuodd yr eitem am 16.02
6. Penderfyniad Ariannol ynghylch Bil Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru)
Dechreuodd yr eitem am 16.49
NNDM5065 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o Fil Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeirwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69(ii) sy’n codi o ganlyniad i’r Bil.
Gosodwyd Bil Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) a’r Memorandwm Esboniadol gerbron y Cynulliad ar 28 Mai 2012.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
7. Cynnig i gymeradwyo Egwyddorion Cyffredinol Bil Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru)
Dechreuodd yr eitem am 16.50
NDM5070 Leighton Andrews (Rhondda)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:
Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol Bil Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru).
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
8. Penderfyniad Ariannol ynghylch Bil Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru)
Dechreuodd yr eitem am 17.39
Gohiriwyd y bleidlais ar y
cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio.
NDM5071 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o Fil Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeirwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69(ii) sy’n codi o ganlyniad i’r Bil.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
39 |
0 |
13 |
52 |
Derbyniwyd y cynnig.
9. Dadl ar y Strategaeth Amgylchedd Hanesyddol
Dechreuodd yr eitem am 17.40
Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1
- Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Mewnosod fel pwynt 1 newydd:
Nodi y gall hyrwyddo a rheoli ein hamgylchedd hanesyddol yn ofalus roi hwb pwysig i economi Cymru.
Derbyniwyd gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Tynnwyd gwelliant 2 yn ôl
Gwelliant 3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi Cynlluniau Gweithredu unigol yn cynnwys y mesurau o lwyddiant cyn gynted â phosibl.
Derbyniwyd gwelliant 3 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 4 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu diweddariad blynyddol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar y Prif Gynllun Gweithredu.
Derbyniwyd gwelliant 4 yn
unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 5
- William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Cydnabod rôl werthfawr y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector wrth warchod a hyrwyddo ein hamgylchedd hanesyddol.
Derbyniwyd gwelliant 5 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gohiriwyd y bleidlais ar weddill y cynnig a’r gwelliannau
o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Gwelliant 6
- William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Galw ar y Gweinidog i gydnabod mai’r ffordd orau y gall Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru gynorthwyo Llywodraeth Cymru gyda’i strategaeth yw drwy aros yn annibynnol.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
18 |
6 |
27 |
51 |
Gwrthodwyd gwelliant 6.
Gwelliant 7 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Galw ar y Gweinidog i ystyried y manteision a’r anfanteision sy’n gysylltiedig â CADW yn mynd yn fwy annibynnol ar Lywodraeth Cymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 7:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
19 |
0 |
33 |
52 |
Gwrthodwyd gwelliant 7.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5069 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn:
1. Nodi y gall hyrwyddo a rheoli ein hamgylchedd hanesyddol yn ofalus roi hwb pwysig i economi Cymru.
2. Nodi Strategaeth Amgylchedd Hanesyddol Cymru, sy’n gwireddu ymrwymiad a wnaed gan Lywodraeth Cymru ym mis Ionawr 2012 ac sy’n nodi dyheadau Llywodraeth Cymru o dan y Rhaglen Lywodraethu i ddarparu amgylchedd hanesyddol yng Nghymru sydd ar gael i’w fwynhau yn awr a chan genedlaethau’r dyfodol ac sy’n cael ei ddiogelu’n dda.
3. Galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi Cynlluniau Gweithredu unigol yn cynnwys y mesurau o lwyddiant cyn gynted â phosibl.
4. Galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu diweddariad blynyddol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar y Prif Gynllun Gweithredu.
5. Cydnabod rôl werthfawr y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector wrth warchod a hyrwyddo ein hamgylchedd hanesyddol.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
39 |
0 |
13 |
52 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
Cyfnod Pleidleisio
Dechreuodd yr eitem am 18.26
Daeth y cyfarfod i ben am 18:30
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13:30, Dydd Mercher, 24 Hydref 2012